Y Selar

@selar.cymru

Cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes https://selar.cymru

Balch iawn i gyflwyno ein record feinyl hyfryd diweddaraf - Selar3! Hwn ar y ffordd i aelodau Clwb Selar wythnos yma. Diolch yn fawr i'r artistiaid a label am eu parodrwydd i gyd-weithio, ac i Lleucu Non am y gwaith celf 👌

Selar3 – rhyddhau record feinyl diweddaraf Y Selar

Mae Y Selar wedi rhyddhau record feinyl aml-gyfrannog newydd sy’n cynnwys traciau gan ddetholiad o artistiaid mwyaf amrywiol a chyffrous y sin ar hyn o bryd.  ‘Selar3’ ydy enw’r record newydd ac mae’n...

selar.cymru

Rhestrau byr diweddaraf Gwobrau'r Selar wedi eu datgelu - un arall i ddod ar raglen Ifan Davies BBC Radio Cymru fory (dydd Gwener 20 Chwefror) ynghyd â un cyhoeddiad pwysig iawn arall! Tiwniwch mewn. Tocynnau'r noson Wobrau yn Aber dal ar gael (dolen yn y stori) selar.cymru/2026/cyhoedd...

Cyhoeddi rhestrau byr ‘Band Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’

Mae Y Selar wedi cyhoeddi  rhagor o rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru. Mae saith o restrau byr wedi eu cyhoeddi eisoes sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, ‘Record Fer...

selar.cymru

Rhag ofn i chi golli'r newyddion yn gynharach yn yr wythnos, mae holl fandiau noson Wobrau'r Selar eleni wedi eu cadarnhau bellach ac mae'n chwip o leinyp! Tocynnau ar werth nawr am £15 - bachwch un cyn iddyn nhw fynd! selar.cymru/2026/cyhoedd...

Cyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau’r Selar

Wrth i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, rydyn ni hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni. Caeodd y bleidlais ar nos Wener 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori ag...

selar.cymru

CYHOEDDIAD LEIN-YP Yr amser wedi dod i gyhoeddi mwy o fanylion Gwobrau'r Selar! Rydan ni'n falch iawn i ddatgelu bydd Bwncath a Buddug yn ymuno gyda ni yn Aber ar 21/02. Rydan ni hefyd yn hynod o falch i gyhoeddi mai Mirain Iwerydd fydd yn cyflwyno'r noson o'r llwyfan selar.cymru/gwobrau/plei...

Bild

Dim ond tri diwrnod ar ôl i bleidleisio dros Wobrau'r Selar. Mae cannoedd wedi pleidleisio'n barod ond mae ambell gategori dal yn agos iawn. Pleidlais yn cau ar 23 Ionawr. Cofiwch fanteisio hefyd ar y pris 'cyntaf i'r felin' rhad ar gyfer tocynnau noson Wobrau'r Selar selar.cymru/gwobrau/plei...

Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2025

Nod Gwobrau’r Selar yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae panel o gyfranwyr rheolaidd cylchgrawn Y Selar wedi l...

selar.cymru

Balch iawn i gyhoeddi manylion cyntaf Gwobrau'r Selar eleni - 21 Chwefror, ac yn ôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth lle'r ydan ni wedi gweld cymaint o nosweithiau cofiadwy. Bydd pleidlais Gwobrau'r Selar yn agor mewn ychydig ddyddiau, a thocynnau'r gig ar werth yr un pryd 🔥

Gwobrau’r Selar i ddychwelyd i’w cartref ysbrydol

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion dyddiad a lleoliad digwyddiad byw Gwobrau’r Selar. Y newyddion mawr ydy  bydd y noson yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y lleoliad lle cynhal...

selar.cymru

Nadolig llawen pawb! Pwy fu'n pori trwy eu copi o flwyddlyfr Y Selar ar ddydd Nadolig? Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar ôl i unrhyw aelodau premiwm newydd o Glwb Selar, ynghyd â'r danteithion eraill sy'n eich cyrraedd ar hap!

Blwyddlyfr Y Selar 2025

Mae Blwyddlyfr Y Selar 2025 wrthi’n cael ei argraffu, a bydd yn cyrraedd aelodau premiwm Clwb Selar erbyn y Nadolig. Dyma fydd y pumed gyfrol o’r blwyddlyfr, gyda’r gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn 2020...

selar.cymru