Eisiau teimlo'n hen? Dyma sut golwg sydd ar Norman Price heddiw...
Bolycs Cymraeg
@bolycscymraeg.bsky.social
Yn ail ddweud hanes Cymru llun wrth llun.... gair wrth air. Ewch i'n gwefan am ragor o gynnwys www.bolycs.cymru A cofiwch am ein siop www.siop.bolycs.cymru
Atgofion melys o'ch plentyndod? siop.bolycs.cymru/collections/...
Sefydlwyd mynachlog ar Ynys Enlli yn y bumed ganrif gan Sant Cadfan. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Yn y 30'au datblygwyd y mynachlog fel gwesty 5 seren, fe gaeodd y drysau yn 1964. Mae adfeilion y gwesty i weld hyd heddiw.
Edrych ymlaen i weld Eden yn perfformio yn Maes B heno. Ges i gip ohonyn nhw’n ymarfer pnawn ma. Mae’r mŵfs dal yn smwdd #steddfod2026
Ffansi glampio yn y brifwyl? Argaeledd munud olaf ar gyfer gweddill yr Eisteddfod. 15 munud o Aberteifi, 10 munud o'r toiled agosaf. Cegin gyda sosban a fforc (angen dod a plât a cyllell eich hun) £150 y noson neu 6 noson £950.
Gwilym "ar be ti'n sbio cont?" Griffiths. Gwyneb cyfarwydd yn ardal Rhostryfan. Mae'n cyfarch pawb mae'n dod ar draws gyda gwaedd o "AR BE TI'N SBIO CONT"? #Lej
"Clustiau'r Sais", dyfais sy'n galluogi Saeson i glywed Cymry'n siarad Saesneg mewn tafarndai cyn iddynt fyned - GCHQ 1943
Oedd hen nain Lionel Messi, Gwladys Llanast, yn rhedeg caffi yn y Gaiman. Hi ddoth a bara brith i dde America.
Disgyblion Ysgol Glantaf a Ysgol Syr Hugh Owen yn cyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd yn 1978 i gystadlu côr bechgyn dan 12.
Yr olygfa tu allan i cartrefi hyd a lled Cymru bore 'ma...
Wastad yn joio Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones ar rhaglenni etholiad S4C
Penwythnos gŵyl y banc Mai hapus. Mwynhewch eich diwrnod yn eich gardd gwrw lleol 👍🏻🍺🏴
Anghofiwch am Aintree...Mae'r ras fawr HEDDIW, Grand National Dyffryn Conwy 3:15, Penmachno. Y ffefryn yw Dafad Iwan @ 12/1
Nain Dona Direidi yn disgwyl i Cyw ddeor - Pasg 2007 Llanisien
Trigolion Dolgellau yn cymryd i'r strydoedd i ddathlu'r ffaith fod y clociau yn eu ceir ac ar eu microwaves a poptai yn deud yr amser cywir unwaith eto ac am y 6 mis nesaf.
Lewis Valentine, cenedlaetholwr a dyfeisiwr y cerdyn "Valentine" ar glawr ei gerdyn 1af. 1914
Mae'n ddydd miwsig Cymru heddiw, neu "y diwrnod mae Radio Wales yn chwarae cwpwl o ganeuon Cymraeg yn yr oriau brig".... #DyddMiwsigCymru
Wyddoch chi fod cefnder Rupert yn rhedeg bwyty ym Mhort Talbot?
Nadolig llawen, bydd eich diwrnod yn llawn caws, sheri a dadlau efo'ch teulu dros beth sydd ar y teledu... #NadoligLlawen 🎅🏼🎄🎁🥃🥕
Mae'n noswyl Nadolig a ma Sion Cont yn sylweddoli fod o wedi anghofio prynu presant i Mrs Cont a mae'r Lush agosa yn Gaer.
Gafodd y gêm "darts" ei ddyfeisio gan Siwan gwraig Llywelyn Fawr. Dyma hi'n sgorio'r 180 cyntaf yn Abergwyngregyn yn 1206.