Cylchgrawn Barn

@cylchgrawn-barn.bsky.social

BARN pobl Cymru mewn cylchgrawn Cymraeg misol. Celfyddydau. Gwleidyddiaeth. Gwin. Gwyddoniaeth. Llyfrau a mwy.

Beth mae’n ei olygu i dyfu i fyny ym mro’r Preseli? Fel rhan o’n hadran arbennig sy’n canolbwyntio ar ardal y Garreg Las, mae Fflur James yn rhannu ei hatgofion personol am y fro a’i dylanwad arni, a beth sy’n ei gwneud mor arbennig yn ei barn hi. Beth sy’n tynnu pobl yn ôl yno dro ar ôl tro?

Bild

Awydd mynd ar grwydr yn ystod wythnos yr Eisteddfod? Mae’r hanesydd lleol Hedd Ladd-Lewis yn ein tywys ar bedair taith gerdded yng ngogledd Sir Benfro gan ddilyn afon Nyfer. Mewn car neu ar droed, cewch ddigon o olygfeydd, hanes a chwedloniaeth i’ch hudo ar y ffordd. 🔗 barn.cymru/cy/dilyn-afo...

Dilyn Afon Nyfer – Barn

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael…

barn.cymru

Mae’n 50 mlynedd ers sefydlu Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor. Yn y rhifyn diweddaraf, cawn ragflas o lyfr newydd Arwel Vittle am UMCB a’u brwydr dros hawliau iaith – pennod sy’n edrych yn ôl ar un o’u gweithredoedd mwyaf herfeiddiol yn erbyn awdurdodau’r coleg. barn.cymru/cy/diflaniad...

Diflaniad y ffeiliau – Barn

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael…

barn.cymru

Sut mae Ewrop yn gweld y datblygiadau gwleidyddol diweddar ym Mhrydain? Mae ein colofnydd Mared Gwyn yn cynnig persbectif Ewropeaidd ar y newidiadau. Wrth i brif weinidog newydd gydio yn yr awenau, darllenwch ei cholofn ddiweddaraf, lle mae’n edrych yn ôl ac ymlaen. barn.cymru/cy/y-sioc-o-...

Y sioc o golli Starmer – Barn

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael…

barn.cymru

Ydi’r haul yn eich denu allan i fwyta y dyddiau yma, fin nos efallai wedi i wres y dydd gilio? Darllenwch argymhellion ein colofnydd gwin, Shôn Williams, am y gwinoedd delfrydol i’w hyfed allan yn yr awyr agored, gyda bwyd oddi ar y barbeciw.

Bild

Yn rhifyn yr haf, mae Elinor Wyn Reynolds yn adolygu ffilm sydd wedi creu tipyn o fwrlwm yng Nghymru a thu hwnt. Gan aros yn Blaena, mae hi hefyd yn rhoi ei hargraffiadau o raglen ddogfen ‘Eigra’ (S4C, 24 Gorffennaf) am un o freninesau’r dref – y llenor a’r bardd Eigra Lewis Roberts. @s4c.cymru

Bild

Prynwch gopi o Barn am gyfle i ennill taleb werth £100 i’w gwario yn Canna Deli! Mae’r caffi Cymreig poblogaidd yma wedi’i leoli ym Mhontcanna, Caerdydd, ychydig gamau o siop lyfrau Caban, lle gallwch brynu’ch copi o Barn. Rhowch gynnig ar y cwis yn rhifyn diweddaraf Barn.

BildBild

Mae rhifyn dwbl yr haf wedi glanio! Ar y clawr, mae Mirain Iwerydd o flaen murlun newydd yng Nghrymych gan Lloyd the Graffiti. Tu mewn, mae’n trafod ei pherthynas â’i gwreiddiau ym mro’r Preseli - un o nifer o erthyglau difyr mewn adran arbennig ar ardal y Garreg Las. 📷 Emyr Young 🔗 barn.cymru

Bild

Mae albwm pync lo-ffei a recordiwyd mewn seler yn Llundain wedi ailymddangos ar ôl bod ar goll am 30 mlynedd. Yn rhifyn Mehefin, Jerry Hunter sy’n hel atgofion am recordio’r gerddoriaeth yn y 1990au, a sut mai dim ond rwan mae’r albwm wedi cael ei rhyddhau… 🎸 barn.cymru/cy/hanes-yr-...

Hanes yr albwm coll – Barn

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael…

barn.cymru

Yn rhifyn Mehefin, mae erthygl grafog gan Meic Birtwistle, ‘Chwedl y ddau Keir’. Gan edrych ar y Blaid Lafur o safbwynt Keir Hardie a Keir Starmer, mae’n cynnig dadansoddiad o sefyllfa bresennol y blaid, ac yn archwilio beth, yn ei farn ef, sydd wedi arwain at ei chwalfa ddiweddar yng Nghymru.

Bild

Yn rhifyn Mehefin, mae Aur Bleddyn yn rhannu ei hargraffiadau o gyfraniad Cymru at y Biennale yn Fenis eleni, sef arddangosfa Sownd: ffrwyth cydweithrediad rhwng Manon Awst a Dylan Huw, ag Oriel Davies ac Oriel Myrddin yn bartneriaid. Mae’n archwilio’r cysylltiad rhwng iaith, diwylliant a thir.

Bild