Andrew James Davies

@andrewjamdavies.bsky.social

Professor of Education at Swansea University. Own views. Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Barn bersonol a geir yma.

🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Wrth i ni droi ein golygon at yr Eisteddfod Genedlaethol ymhen ychydig wythnosau, rydym yn gyffro i gyd i gyhoeddi ein rhaglen ar y maes! Eleni, bydd gennym bresenoldeb ar stondin Y Lle Llyfrau yn y Pentref Llên gyda nifer o gyhoeddwyr eraill. Fe'ch gwelwn ni chi yno!

AMSERLEN DIGWYDDIADAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2026

Dydd Mawrth 4 Awst 12.00yp
Pabell Prifysgol Bangor
Dafydd El ym Mangor
Ymunwch ag Aled Eirug wrth iddo gael ei holi gan Peredur Lynch ynglŷn â dylanwad Dafydd Elis-Thomas, a’i effaith ar Brifysgol Bangor.

13.30yp
Pabell Cymdeithasau 2
Hedd a Galanas: ymatebion Cymraeg i waith a syniadau Leo Tolstoi
Bydd Llion Wigley yn ymestyn ar bennod olaf ei gyfrol Ynysoedd Gobaith gan archwilio’n fanylach i ddylanwad syniadau Leo Tolstoi yng Nghymru hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Cyflwynir y ddarlith gan Jane Aaron.

Dydd Mercher 5 Awst 11.00yb
Pabell Prifysgol Bangor
Catrin o Ferain: Mam Cymru
Dewch i wrando ar Jason Walford Davies yn holi’r awdur Helen Williams-Ellis am ei chofiant i un o wragedd enwocaf Cymru, Catrin o Ferain. Cawn gip ar ei bywyd anturus yng Nghymru, Llundain ac ar gyfandir Ewrop, trwy graffu ar y canu barddol iddi.

14.00yp
Llwyfan Llyfrau, Pentref Llên
‘Canu Ecolegol y Gymraeg?’
Ymunwch mewn sgwrs rhwng Myrddin ap Dafydd a Carwyn Graves, awdur y gyfrol ddiweddar Cynefin am botensial chwyldroadol canu natur y Gymraeg. Mewn oes o drai ar fyd natur, oes rhywbeth gwydn y gallwn ei dynnu o’r traddodiad hir o ganu natur yn yr heniaith?

Dydd Iau 6 Awst 14.30yp
Pabell Cymdeithasau 2
Y Gelfyddyd Gymodlawn: T. Gwynn Jones a Cherddoriaeth
Sgwrs rhwng Llŷr Gwyn Lewis ac Elen Ifan, awdur y gyfrol Y Gelfyddyd Gymodlawn am ddylanwad amrywiol cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones. 

Dydd Gwener 7 Awst 10.30yb
Llwyfan Llyfrau, Pentref Llên
Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig
Bydd trafodaeth banel gyda chyfranwyr y gyfrol amserol, Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru, gan gynnwys Andrew James Davies, Jeremy Griffiths ac Elin Haf Gruffydd Jones.

Dydd Sadwrn 8 Awst 15.30yp
Pabell Prifysgol Caerdydd
Cofio Dafydd El
Dewch i wrando ar Richard Wyn Jones yn holi’r awdur Aled Eirug am ei gofiant i Dafydd Elis-Thomas, un a weddnewidiodd wleidyddiaeth ein cenedl.

'Addysg yng Nghymru ers datganoli: Tair Ton Polisi, a’r her fawr o ran gweithredu' gan Andrew James Davies (Prifysgol Abertawe), Alexandra Morgan (Prifysgol Caerdydd), Mark Connolly (Prifysgol Caerdydd), Emmajane Milton (Prifysgol Caerdydd) Mynediad Agored ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...

Addysg yng Nghymru ers datganoli: Tair Ton Polisi, a’r her fawr o ran gweithredu

Ar achlysur 25 mlynedd ers dechrau datganoli i Gymru, mae’r erthygl hon yn archwilio’r tair ton wahanol o bolisi ac ymarfer addysg yng Nghymru sydd wedi’u nodi a’u harchwilio g...

journal.uwp.co.uk

“Deffrwch!”: Neges trigolion Caerdydd i’r Cyngor tros ysgol uwchradd Gymraeg newydd Bu rhieni a phlant yn protestio tu allan i Neuadd y Ddinas yn gynnar fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 21) yn erbyn “esgusodion” y Cyngor ✍️ Rhys Owen

“Deffrwch!”: Neges trigolion Caerdydd i’r Cyngor tros ysgol uwchradd Gymraeg newydd

Bu rhieni a phlant yn protestio tu allan i Neuadd y Ddinas yn gynnar fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 21) yn erbyn “esgusodion” y Cyngor

golwg.360.cymru