🐶 Mae astudiaeth arloesol yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau. 🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/08/title-288745-cy.html #hydatid #cystiauhydatid #parasit
Prifysgol Aberystwyth
@prifaber.bsky.social
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024, The Times a The Sunday Times Good University Guide. English: @aberuni.bsky.social
📺 Buodd Dr Gwenllian Rees yn siarad â Newyddion S4C ddoe am ymchwil sy'n edrych ar gŵn fferm a chlefyd hydatid yn y Canolbarth. #hydatid @aberdlsagb.bsky.social
👏 Llongyfarchiadau mawr i Dr Aviva Guttmann o’n Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei llyfr ar hanes cydweithrediad cudd-wybodaeth yn ystod y Rhyfel Oer. 🖱️ tinyurl.com/4fhfju3h @interpolaber.bsky.social #RhyfelOer #cuddwybodaeth
🤣 A yw’n bosib bod siarad Cymraeg yn dylanwadu ar yr hyn a gawn yn ddoniol? Dyna gwestiwn y mae academyddion o'n Hadran Seicoleg yn ceisio ei ateb. 🖱️https://tinyurl.com/2nvp66hb
Sut y gallwn ni leihau peryglon llygredd a chemegau gwenwynig yn ein bywydau bob dydd? Mewn erthygl newydd, mae Becky Underwood o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn edrych ar y cyngor arbenigol diweddaraf. 🖱️ tinyurl.com/2ptcz23x
🌱 Mae Dr Pete Bunting o'n Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau'r Ddaear yn helpu i fapio a monitro coedwigoedd mangrof ledled y byd fel rhan o ymdrechion i ddiogelu'r ecosystemau hanfodol hyn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. 🖱️ tinyurl.com/d666rsu4 #mangroves #mapio #monitro
Roedd 22% o ffermydd wedi dioddef trosedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ôl arolwg newydd o droseddau gwledig a arweiniwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth. tinyurl.com/28n8ydzp
📖 Mae academyddion o'n Hadran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi cyd-olygu casgliad newydd o farddoniaeth sy'n taflu goleuni ar leisiau barddonol menywod ledled Cymru, Iwerddon a'r Alban rhwng 1400 a 1800. 🖱️ tinyurl.com/2h6hftpd #BarddoniaethMenywod #IeithoeddCeltaidd
🚀 Mae Dr Matt Gunn o'n Hadran Ffiseg wedi cwrdd â Phennaeth NASA, Jared Isaacman, i drafod ei waith ar grwydryn planed Mawrth a fydd yn ceisio canfod arwyddion bywyd ar y blaned goch. 🖱 tinyurl.com/3w8akw48 @ukspaceagency.bsky.social
Rydym wedi llofnodi memorandwm newydd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn cryfhau mynediad at addysg a sgiliau ar draws y dirwedd addysg drydyddol. Mae’r cydweithrediad yn ymateb i'r her bresennol o lefelau isel o gyfranogiad mewn addysg uwch yn y wlad. 🖱️ tinyurl.com/27462cff
Mae ein cynlluniau ar gyfer parc arloesi gwyrdd newydd gwerth miliynau o bunnau wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda sêl bendith i'r cynlluniau amlinellol. 🖱️ tinyurl.com/yybchbn2 @csceredigion.bsky.social @ukri.org @ibers.bsky.social
Trafodaeth ddifyr yn y Sioe Fawr am rôl allweddol amaethyddiaeth yn nyfodol y Gymraeg wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o addysgu'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg yma yn Aberystwyth. #SioeFawr @colegcymraeg.bsky.social @cefincampbell.bsky.social @ibers.bsky.social
"Cyfyng-gyngor annibyniaeth Plaid Cymru - o wrthdystio i rym": erthygl Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles ar rai o'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth newydd Cymru. 🖱 tinyurl.com/mr2zkm6u @interpolaber.bsky.social
Roedd hi'n fendigedig gweld ein carfan cyntaf erioed o fyfyrwyr nyrsio yn graddio heddiw - pob dymuniad da iddyn nhw! tinyurl.com/4jdu4hm8
🩺 Edrych ymlaen at ddathlu graddio carfan gyntaf myfyrwyr nyrsio Prifysgol Aberystwyth heddiw. 🎓 www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
Nyrsys cyntaf erioed yn graddio o Brifysgol Aberystwyth
Bron i 40 o'r myfyrwyr cyntaf erioed i astudio nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn graddio ddydd Iau.
bbc.co.uk
🌳 Gallai ymdrechion i blannu mwy o goed mewn dinasoedd ym Mhrydain gael hwb diolch i offeryn newydd i gynllunwyr a grwpiau cymunedol. 🖱️ tinyurl.com/5erp3tyf #CoedTrefol #GweithreduHinsawdd
Mae mwy o bobl yng Nghymru o blaid cadw’r system bleidleisio newydd ar gyfer y Senedd a ddefnyddiwyd ym mis Mai yn hytrach na dychwelyd at yr hen un, yn ôl astudiaeth fanwl newydd a gyd-arweiniwyd gan ein hymchwilwyr. 🖱️ tinyurl.com/y6dyn9cz #AstudiaethEtholiadCymru2026 #Senedd
🔬 Rydym yn falch iawn bod IBERS wedi'i dewis i ymuno â grŵp pwysig newydd a fydd yn gwasanaethu fel un llais ar gyfer mwy na 40 o sefydliadau gwyddoniaeth ac ymchwil. 🖱️ tinyurl.com/yafmkfxx #Gwyddoniaeth #Ymchwil
Llongyfarchiadau mawr i'r Athro Mererid Hopwood ar ei llwyddiant bendigedig neithiwr! 👏 🖱️ tinyurl.com/asand3ex #cymraeg #llongyfarchiadau
Mererid Hopwood yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026
Mererid Hopwood sydd wedi ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 am ei chyfrol o farddoniaeth.
tinyurl.com
🎉 Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r unigolion a fydd yn derbyn Gwobrau er Anrhydedd yn ein seremonïau graddio wythnos nesaf. tinyurl.com/3v6kh7jj
📻 Bu Sharon King a Megan Wynne Jones ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru i drafod y garreg filltir bwysig wrth i garfan gyntaf o filfeddygon Cymru raddio. Gwrandewch yn ôl yma: www.bbc.co.uk/sounds/play/...
Mae erthygl ddiweddaraf Dr Jenny Mathers yn ystyried sut y daeth Crimea yn symbol o lwyddiant goresgyniad Rwsia o Wcráin a pham mae'r penrhyn yn dod yn gynyddol ynysig wrth i Kyiv ddwysáu ei hymosodiadau. 🖱️ tinyurl.com/98r8xywc @interpolaber.bsky.social
Llongyfarchiadau lu i Kerrie Farrar sydd wedi'i phenodi i Gadair Germinal mewn Bridio Planhigion Trosiannol yn IBERS, Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol. 🖱️ tinyurl.com/323apa47 @ibers.bsky.social
🏅 Llongyfarchiadau i'r rhewlifegydd maes Dr Samuel Doyle sydd wedi derbyn y Fedal Begynol gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am ei ymchwil a'i arweinyddiaeth ragorol yn yr Ynys Las. 🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/01/title-285606-cy.html #FedalBegynol #YnysLas
👏 Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr milfeddygol cyntaf erioed! Wrth i chi gychwyn ar bennod nesaf eich taith, cofiwch — byddwch chi bob amser yn rhan o deulu Aber. Dymunwn bob llwyddiant i chi yn y dyfodol! 🖱️ Mwy: www.aber.ac.uk/cy/news/arch...
🩺 Heddiw roeddem yn falch iawn o ddathlu ein carfan gyntaf erioed o fyfyrwyr Gwyddor Milfeddygol yn cwblhau eu hastudiaethau — carreg filltir bwysig i'r Brifysgol ac i Gymru. 🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/06/title-287802-cy.html
Mae ein hymchwilwyr yn esbonio pam nad yw profion cof yn ddigonol i asesu a yw atchwanegion yn effeithio ar yr ymennydd. 🖱️ tinyurl.com/5n8sun33
👏 Llongyfarchiadau i'r Athro Charles Musselwhite o'r Adran Seicoleg ar dderbyn gwobr genedlaethol gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol am ei gyfraniad eithriadol i drafnidiaeth gymunedol. 🖱️ tinyurl.com/4f6c3ewy @charliemuss.bsky.social #TrafnidiaethGymunedol
Mae’r Athro Jamie Medhurst yn ystyried a allai toriadau diweddar i raglenni a staffio effeithio ar allu’r BBC i gynnal lefelau uchel o ymddiriedaeth a sylw. 🖱️ tinyurl.com/ndnm6fdb
🐎 A all newidiadau polisi fygwth dyfodol merlod lled-wyllt? Dyma erthygl gan yr Athro Mariecia Fraser yn ystyried eu rôl mewn adfer cynefinoedd. 🖱️ tinyurl.com/jwhrukza @ibers.bsky.social