Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut i archwilio eich hanes lleol a hanes eich teulu? 🔎🗄 Dewch i glywed mwy yn sesiwn panel Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CAChC) yn Eisteddfod y Garreg Las. Byddwn yn rhoi enghreifftiau cyffrous o'r cofnodion archifol sydd ar gael..
Ym mis Mehefin, rhannwyd blog gan Colin Laker – gwirfoddolwr @librarywales.bsky.social a oedd yn gobeithio y gallai ymchwil pellach daflu mwy o oleuni ar y rhai a arwyddodd Ddeiseb Heddwch 1923 ac a oedd yn byw yn y ‘cyfeiriadau rhyfedd’ yn Trelái. Dyma diweddariad: archifau.cymru/2026/07/16/m...
Mwy o gyfrinachau Deiseb Heddwch Menywod Cymru - Archifau Cymru
Yn fy mlog diwethaf, awgrymais y gallai ymchwil pellach daflu mwy o oleuni ar y ‘cyfeiriadau rhyfedd’ yn ardal Ely yng Nghaerdydd a ymddangosodd wrth ymyl enwau’r rhai a arwyddodd Ddeiseb Heddwch 1923...
archifau.cymru
Mae ‘Y Diemwnt Du a Thu Hwnt: Dwylo Cudd ac Iachau’r Tir’ yn adnodd dwyieithog arloesol gan @glamarchives.bsky.social wedi’i gynllunio i ysbrydoli dysgwyr i archwilio gorffennol, presennol a dyfodol diwydiannol Cymru. Gallwch ddarllen mwy am yr adnodd yn y blog hwn: archifau.cymru/2026/06/29/y...
Y Diemwnt Du a Thu Hwnt: Dwylo Cudd ac Iachau’r Tir - Archifau Cymru
Adnodd Addysg Newydd gan Archifau Morgannwg Gwasanaeth archifau wedi ei leoli yn ne ddwyrain Cymru yw Archifau Morgannwg. Rydym yn cadw dros 12km o gofnodion yn ein casgliad, sy’n dyddio yn ôl at y 12...
archifau.cymru
Rainbow Wales: Celebrating Queer Welsh Icons, Past and Present Ymunwch a ni FORY 23 Mehefin am 6yh wrth i ni ddathlu Mis Pride gyda sgwrs gan Emily Garside ar ei llyfr diweddaraf Mae gennym air con yn yr Archifau!! Cadwch le AM DDIM yma www.ticketsource.com/glamorgan-ar...
"Rainbow Wales - Celebrating Queer Welsh Icons, Past and Present" at Glamorgan Archives
Tickets are now available for Rainbow Wales - Celebrating Queer Welsh Icons, Past and Present at Glamorgan Archives, Cardiff on Tuesday 23rd June 2026 at 6:00PM. Click the link for further information...
ticketsource.com
Ar ein blog yr wythnos hon, rydym yn rhannu stori hyfryd am dair cenhedlaeth o'r un teulu a ysgrifennwyd gan Bec Howarth ac a ddarganfuwyd trwy gasgliadau yn Archifau Gwent @gwentarchives.bsky.social Byddwn yn cyhoeddi rhan newydd bob dydd yr wythnos hon. archifau.cymru/2026/06/22/s...
Stori deuluol tair cenhedlaeth drwy gasgliad Archifau Gwent - Cyflwyniad - Archifau Cymru
CyflwyniadRoeddwn i’n paratoi cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer mis hanes LHDTC+ pan ddes i ar draws casgliad llinell amser LHDTC+ Sirol Cymru. Doedd gen i ddim syniad y byddai’r darg...
archifau.cymru
Faint ohonoch chi sydd eisoes wedi gweld y ffilm #Madfabulous, wedi'i hysbrydoli gan fywyd 5ed Ardalydd Môn, Henry Cyril Paget? Roedd Henry Paget yn enwog am ei fywyd afradlon, ac am wastraffu ei etifeddiaeth ar fywyd cymdeithasol moethus a gemwaith drud cyn ei farwolaeth yn 29 oed.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Archifau yn esgus gwych i ddarganfod beth sydd ar gael yn eich Archif leol! Yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd mae yna amrywiaeth eang o destunau prin:
Diwrnod Archifau Rhyngwladol Hapus 2026! 🎉 Yn y blog heddiw, mae Rhian Diggins yn @glamarchives.bsky.social yn disgrifio sut y creodd staff yn Archifau Morgannwg ‘Zine’ i dynnu sylw at eu hoff eitemau yn yr Archifau. archifau.cymru/2026/06/09/e...
Ein Hoff Bethau – Zine Cymunedol Archifau Morgannwg - Archifau Cymru
Diwrnod Archifau Rhyngwladol Hapus 2026! Heddiw rydym yn dathlu cyfoeth casgliadau archifol, a phwysigrwydd gwaith archifwyr a sefydliadau archifol ledled y byd. Yn y blog hwn, mae Rhian Diggins yn Ar...
archifau.cymru
Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Archifau🎉 Cyfle i ddathlu gwaith archifwyr a staff gwasanaethau archifau ym mhobman, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth ddiogelu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ein hanes. Pa gasgliadau sydd ar gael yn eich ardal leol?
Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr a'n ffrindiau yn Crowd Cymru am ennill Gwobr Gwirfoddolwyr Archifau ARA 2026! 🎉👏Rydyn ni mor falch ohonoch chi, ac am ffordd wych o ddathlu gwaith eich gwirfoddolwyr gwych yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr. www.archives.org.uk/volunteering...
Crowd Cymru - WinnerARA Archive Volunteering Award 2026 — Archives & Records Association
Crowd Cymru Crowd Cymru is transforming access to Welsh archives through a digital volunteer crowdsourcing project, currently funded by Welsh Government. This is a collaborative project betw...
archives.org.uk
Mae hi'n #WythnosGwirfoddolwyr Genedlaethol, ymgyrch flynyddol ledled y DU a gynhelir ym mis Mehefin i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr. Yn y blog newydd hwn, mae Colin Laker yn dweud mwy wrthym am ei rôl wirfoddoli yn @librarywales.bsky.social: archifau.cymru/2026/06/01/c...
Cyfrinachau Deiseb Heddwch Menywod Cymru - Archifau Cymru
Ers tua dwy flynedd bellach, rydw i wedi bod yn gwirfoddoli ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, naill ai’n trawsgrifio enwau a chyfeiriadau neu’n adolygu gwaith cyfranogw...
archifau.cymru
✏️Yn y blog heddiw: darllenwch y newyddion diweddaraf o brosiect #CrowdCymru archifau.cymru/2026/05/18/n... 🙂@crowdcymru.bsky.social
Newyddion #CrowdCymru – gwirfoddoli digidol gydag archifau Cymru - Archifau Cymru
Helô bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol #CrowdCymru gyda llond lle o newyddion i’w rhannu! Estyniad i’r prosiect a wyneb newydd! Yn gyntaf, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Llywod...
archifau.cymru
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Archifdy Sir Gâr. dri gweithdy creadigol diddorol a gynlluniwyd yn feddylgar yn Ystafell Chwilio’r Archifau. Drwy drin mapiau fel offer deongliadol pwerus, agorodd y gweithdai ffenestr i’r ffyrdd y mae pobl wedi deall lle, cymuned a pherthyn ar draws amser.
Mapio'r Archifau - Archifau Cymru
Mae'r fenter gelf-ac-archifau hon yn rhan o brosiect ehangach sydd â'r nod o gefnogi iechyd meddwl a lles.
archifau.cymru
📢Caru hanes Cymru? Storïau teuluol? Hen luniau, mapiau, llythyrau a chofnodion? 📝 Cymerwch 5–10 munud i lenwi’r arolwg cyn 15 Mawrth 🔗 bit.ly/3OEJHe9 Helpwch i sicrhau bod archifau yng Nghymru yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi a’u defnyddio; nawr, ac am genedlaethau i ddod.
📢Caru hanes Cymru? Storïau teuluol? Hen luniau, mapiau, llythyrau a chofnodion? 📝 Cymerwch 5–10 munud i lenwi’r arolwg cyn 15 Mawrth 🔗 bit.ly/3OEJHe9 Helpwch i sicrhau bod archifau yng Nghymru yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi a’u defnyddio; nawr, ac am genedlaethau i ddod.
(/2) Oeddech chi'n gwybod taw Diwrnod Cenedlaethol y Draenogod oedd hi ddoe? Yn yr oesoedd canol, y gred ar lawr gwlad oedd bod draenogod yn gorwedd ar eu cefnau er mwyn gallu pigo ffrwythau â’u draen. Wedyn bydden nhw’n cario'r ffrwythau i'w ffeuau i fwydo'r rhai bach.
(1/2) Did you know yesterday was National Hedgehog Day? In medieval folklore, hedgehogs were said to lie on their backs so they could impale fruits on their spine. They then carried the fruit to their dens to feed the young.
O Archifau Conwy, mae'r ddelwedd hon yn dangos athro a dau fyfyriwr mewn ystafell ddosbarth yn y 1950au. Tybed pa bwnc oedden nhw'n ei ddysgu? 🌍Cyfeirnod: CP39/2/2/1/10
Mae'r ddelwedd hon @gwentarchives.bsky.social yn dangos trên o Gwmni Dociau a Rheilffordd Alexandra, eiliadau ar ôl iddo syrthio i lawr clawdd 32 troedfedd o uchder ger Gorsaf Basaleg.
Swydd: Swyddog Ymgysylltiad (Amser llawn, tymor sefydlog tan 31 Hydref 2026) Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda gwasanaethau archifa a threftadaeth ledled Cymru ar brosiect Archifau Cymru Byw / Archives Wales Alive a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 1/
Partneriaeth yw #CrowdCymru gyda Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, Archifau Conwy, Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifau Morgannwg, Archifau Gwent, Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’r Llyfrgell Genedlaethol. 2/
Credir mai Mwynglawdd Aur Garth yng Nghilcain oedd y maes aur cyfoethocaf yng Nghymru pan gafodd ei ddarganfod ym 1889! Mae'r map hwn a gedwir yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru yn dangos yr ardal a ddaeth â chyfoeth a ffortiwn i economi Cymru. 🗺️@agddcymru.bsky.social
O Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe mae eiddo personol y dyn ei hun! Mae ei gasgliad yn cynnwys ei fag a chasgliad mawr o lyfrau. Tybed beth oedd ei hoff lyfr?
Gall cychwyn ar ymchwil archifol ymddangos fel tipyn o her, ond gyda chynllunio gofalus, amynedd a chwilfrydedd gallwch ddod o hyd i drysorau go iawn mewn casgliadau hanesyddol. Mwynhewch y broses a’r boddhad sy'n dod o gael cipolwg gwerthfawr ar y gorffennol!
O @gwentarchives.bsky.social mae'r lluniau hyn yn dangos bwydlen ginio 1967 yn Ysgol Gynradd Crosskeys. O gig oen rhost i darten gaws lemwn, mae'n ymddangos eu bod wedi cael gwledd! 🥕🥩🥮 Cyfeirnod: CEA48/23
Rydyn ni wedi cael rhywfaint o eira ar draws Gwent hyd yn hyn ym mis Ionawr – ond dim byd tebyg i aeaf 1962-1963! Isod, gellir cymharu, un o un o rifynnau Gwent Local History Journal yn ein casgliad, yn dangos y gaeaf hwn, â gaeaf enwog arall - Gaeaf 1946-1947.
@capelicymru.bsky.social yw prosiect cyffrous newydd y Comisiwn Brenhinol i ddeall, dogfennu ac ymateb i'r golled gynyddol yn nhreftadaeth Anghydffurfiol Cymru. Dilynwch nhw am ddiweddariadau prosiect.
DI2006_1674
Digitized copy of a black and white photograph showing an exterior view of Bethania Chapel, Maesteg, with the congregation and school pupils. Part of a collection of material relating to Bethania Chap...
zurl.co
🎉Ar ddydd Gwener yr 28ain o Dachwedd, lansiwyd ymgyrch Archwilio Eich Archif yn swyddogol gan Jack Sargeant MS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru @agddcymru.bsky.social
Ar hyn o bryd, dim ond cyfran fechan o’n casgliadau cyffredinol yw ein casgliadau digidol, ond gyda dyfodiad ffotograffiaeth ddigidol ac, yn enwedig, ffonau clyfar, mae pobl yn tynnu llawer mwy o luniau nag erioed o’r blaen. Faint o’r rhain fydd yn cael eu cynnwys yng nghasgliadau archif y dyfodol?
iPhones ac Archifau: Sut fyddwn ni’n cadw ffotograffiaeth y dyfodol?
Ar hyn o bryd, dim ond cyfran fechan o’n casgliadau cyffredinol yw ein casgliadau digidol. Wrth symud ymlaen, fodd bynnag, bydd casglu a gofalu am ddeunydd sydd wedi’i ‘eni’n ddig…
archifau.cymru
Y mae’n deg i ddweud mai cenedl sy’n caru anifeiliaid yw Cymru; yn wir, datgelodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021 fod 52% o gartrefi Cymru yn berchen ar anifail anwes. 🐶🐹🐰🐮🐱🦆
Explore Your Archive: Archive Animals
It's not just people that get their own archives - our furry friends do too! #EYAPets
library.wales