Gair y dydd: MACHLUD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Disgrifia MACHLUD (gynt YMACHLUDD) weithred yr haul yn mynd i lawr ac yn ymguddio am y nos cyn codi drannoeth yn y DWYRAIN. Ystyr yr hen ferf dwyre/dwyrain oedd ‘codi’.
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS
@yganolfangeltaidd.bsky.social
Mae'r Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. The Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies is a dedicated research institute of the University of Wales, located alongside the National Library.
Martin Crampin sydd â hanes a datblygiad gwydr lliw yng Nghymru, a hynny ers 700 o flynyddoedd. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
Y ffenestri trawiadol sy'n dod â lliw i eglwysi Cymru
Martin Crampin sydd â hanes a datblygiad gwydr lliw yng Nghymru, a hynny ers 700 o flynyddoedd.
bbc.co.uk
Clár Thionól na bliana seo ar fáil anois! Tabhair faoi deara gur ar an Déardaoin a chuirfear tús leis i mbliana. Programme for this year's Tionól now available. NB this year it starts on the Thursday. #DIASdiscovers www.dias.ie/2026/04/30/t...
Gair y dydd: arwain www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r bachgen bach yn 'cyfarwyddo cwrs' y gaseg â thennyn. A wyddoch fod y gair hefyd yn golygu 'cludo, cario'? Darllenwch yr erthygl yn GPC i ganfod yr holl ystyron.
📚Catrin o Ferain: Mam Cymru Dewch i glywed Gruffudd Antur yn holi’r awdur Helen Williams-Ellis am ei chofiant i Catrin o Ferain yn y Llyfrgell Genedlaethol! 🕢6yh 📅Nos Fawrth 22 Medi 📍Drwm, LlGC 🎫Digwyddiad am ddim, ond bydd angen archebu sedd trwy wefan www.ticketsource.com/llgcnlw/evt-...
Gair y dydd: hwyad geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Moch dysg nawf mab hwyad Dihareb o Lyfr Coch Hergest (1400). Bydd hwyaden fechan yn dysgu sut i nofio (nawf) yn fuan. Ystyr y ddihareb ydi fod y pethau a wnawn trwy reddf yn dod yn hawdd. Nid yw nofio’n hawdd i ni, fel y mae i hwyaid!
📚Cyhoeddiad newydd gan @emyrlewis.bsky.social. Darlith Goffa T. H. Parry-Williams 2026 🔗https://shop.wales.ac.uk/cy/cynnyrch/dal-ar-y-seld-neu-a-gawsom-ni-weld-y-gymraeg-y-gyfraith-a-chyfansoddiad-cymru/
Gair y dydd: diferion www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... Braf gweld y diferion hyn bore 'ma! Mae 'na groeso mawr i'r glaw. Gweler hefyd dafn - dafnau glaw.
📣Heddiw yn yr Eisteddfod.
Cyfeillion GPC yn yr Eisteddfod! Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd i'r Babell Lên fore Sadwrn erbyn 11, ac i ddilyn, cyfle am sgwrs gyda Staff GPC ar stondin PCYDDS (rhif 803-806). #CyfeillionGPC
📢BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes 🗓️Dydd Mercher, 5 Awst ⏰16.30 📍Eisteddfod, Cymdeithasau 2 Croeso cynnes i bawb!
📢‘Rhyngwladoli a’r Gymraeg’: Ned Thomas yn sgwrsio gydag Elin Haf Gruffydd Jones ar achlysur ei ben blwydd yn 90 oed. 🗓️Dydd Mercher, 5 Awst ⏰12.00 o'r gloch 📍Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Croeso cynnes i bawb! @colegcymraeg.bsky.social
Gair y dydd: brethyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r brethyn yng nghoron Eisteddfod y Garreg Las wedi ei wehyddu'n arbennig i gynrychioli 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, Newyn dan y grug'. Tybed pwy fydd enillydd y goron hardd hon? Llun: #GemwaithBowenJewellery
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Fore Gwener nesaf am 10.30yb yn Llwyfan Llyfrau y Pentref Llên, dewch i wrando ar drafodaeth banel gydag @andrewjamdavies.bsky.social, Jeremy Griffiths ac Elin Haf Gruffydd Jones, cyfranwyr y gyfrol, 'Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru'.
Ymunwch â Chyfnewidfa Lên Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las i glywed am daith Valériane Leblond a Graphic Design & Illustration i Japan y llynedd, profi ychydig o theatr traddodiadol Kamishibai a chlywed am y cynlluniau i greu llyfrau lluniau newydd - hyn oll a cherddoriaeth fyw!
📢BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes 🗓️Dydd Mercher, 5 Awst ⏰16.30 📍Eisteddfod, Cymdeithasau 2 Croeso cynnes i bawb!
📢‘Rhyngwladoli a’r Gymraeg’: Ned Thomas yn sgwrsio gydag Elin Haf Gruffydd Jones ar achlysur ei ben blwydd yn 90 oed. 🗓️Dydd Mercher, 5 Awst ⏰12.00 o'r gloch 📍Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Croeso cynnes i bawb! @colegcymraeg.bsky.social
📢Darlith Y Bywgraffiadur Cymreig 🗓Dydd Sadwrn 1 Awst 🕔 11.30yb 📍Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pabell y Cymdeithasau 2 🗣 ‘Waldo: Bardd Dewrder, Bardd Tynerwch’. Elan Closs Stephens yn holi Mererid Hopwood am lunio drama’n seiliedig ar fywyd a gwaith Waldo Williams.
Gair y dydd: llyfr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llongyfarchiadau mawr i lywydd Cyfeillion GPC, y Prifardd Mererid Hopwood, ar ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026, gyda'i chyfrol, 'Mae'. Dyma'r tro cyntaf i gyfrol o farddoniaeth ennill ers 2002. Llun: LlenyddiaethCymru
Gair y dydd: breilw geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair anghyfarwydd am rosyn a gofnodwyd yng ngeiriadur 1604-07 Syr Thomas Wiliems, ac sy'n cael ei gysylltu â'r Hen Gernyweg 'breilu'. Enw arall ar rosyn yw ffion, sydd hefyd yn enw poblogaidd i ferch.
📚Taith Llyfr Catrin o Ferain: Mam Cymru Ymunwch â Helen Williams-Ellis ar ei thaith yn hyrwyddo ei chyfrol newydd! Y man cyntaf ar y daith ydy Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ar y 25ain o Orffennaf. Archebwch eich tocyn am ddim draw ar wefan y Plas. 👇 www.oriel.org.uk/cy/digwyddia...
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dihareb gofiadwy a chalonogol o Lyfr Coch Hergest (c.1400): bydd mwy o ddŵr yn y môr ar ôl i ddryw biso ynddo. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw gynnydd a wnawn, pa mor fach bynnag, yn gam yn y cyfeiriad iawn ac yn haeddu cael ei ddathlu!
Word of the day: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... ‘a pissing’ A proverb from the Red Book of Hergest (1400): the sea will contain more water after a wren has pissed in it. In other words, any progress we make, however small, is a step in the right direction and deserves to be celebrated!
Gair y Dydd: ieitheg geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Dyma un o’r meysydd y bu Edward Lhuyd, a fu farw ar y dyddiad hwn yn 1709, yn arloesi ynddo. Mae’r cerflun hwn y tu allan i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth lle mae cartref y Geiriadur.
Word of the Day: ieitheg geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... ‘Ieitheg’ – the science of language - one of the areas of study pioneered by Edward Lhuyd, who died on this date in 1709. This statue stands by the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies in Aberystwyth where the Dictionary is based.
= am un chanddo ddant melys ac sy’n hoff o’i fwyd / fond of good eating, greedy.
Gair y Dydd gwyntyll www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Offeryn i beri awel o wynt; ffan; offer i awyru ystafell CC BY-SA 2.5 AngMoKio commons.wikimedia.org/wiki/File:As...
Noswaith Hanes Lleol: Sgyrsiau gan Martin Crampin a Jenny Day o'r Ganolfan. 26/06/2026 Local History Evening: with talks by Martin Crampin and Jenny Day from CAWCS.
Gair y Dydd: cloc gwres geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Enw da, ond prin iawn ei ddefnydd, ar thermomedr. Mae’r wybodaeth a roddir ganddo yn mynnu sylw ar hyn o bryd.
Yn sgil y rhagolygon tywydd eithafol ar gyfer dydd Iau penderfynwyd gohirio’r sgwrs rhwng Ned Thomas ac Elin Haf Gruffydd Jones yn y Ganolfan.