Disgrifiad o’r Arglwydd Rhys, gan ei fardd Cynddelw Brydydd Mawr (tua 1190) Buches kyrt kertoryon wasga6d = Buches cyrdd, cerddorion wasgawd (yn ôl sillafu heddiw) = Un mae pawb yn heidio ato ac sy’n amddiffyn cerddorion. *cerddor = un yn ymarfer cerdd dafod neu gerdd dant!*
Ann Parry Owen
@collen105.bsky.social
Cymraes. Barddoniaeth ganoloesol a geiriadura. Athro. Hoffi dysgu pethau newydd. / Welsh lexicography and medieval poetry. @geiriadur @ganolfan Geiriadura.cymru
Cofnod o’r Oesoedd Canol yn disgrifio tywydd eithriadol 1252 gyda gwres mawr yn yr haf yn cael ei ddilyn gan lifogydd gwael. (Rydw i wedi diweddaru’r sillafu.)
After a career spent grappling with the neural underpinnings of autism, Uta Frith is unwavering in her controversial call to scrap our current view of the condition and start again
Why autism pioneer Uta Frith wants to dismantle the spectrum
After a career spent grappling with the neural underpinnings of autism, Uta Frith is unwavering in her controversial call to scrap our current view of the condition and start again
newscientist.com
= am un chanddo ddant melys ac sy’n hoff o’i fwyd / fond of good eating, greedy.
Bydd Dafydd Johnston yn trafod ‘Gruffudd ap Nicolas: noddwr, beirniad a bardd’ yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr ar 13 Mehefin yn Neuadd Ddinesig Llandeilo. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru e-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk. Croeso cynnes i bawb!
Gair y dydd: CLODDIO geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Berf o'r enw CLAWDD, sef y pridd a bentyrrid wrth agor ffos, ac a weithredai'n aml fel ffin, fel CLAWDD Offa. Heddiw gall olygu gwrych yn gyffredinol. Bu cwningen brysur iawn yn cloddio twll dros nos y tu allan i swyddfeydd GPC
Braf ymweld eto â’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn DIAS, Dulyn - mae’n werth edrych allan am eu hysgoloriaethau ôl-ddoethuriaethol. Dyma alwad am bapurau ar gyfer cynhadledd y Tionól, 27/28 Tachwedd eleni. Dyddiad cau 3/07. Mae wastad croeso mawr i bapurau am y Gymraeg. www.dias.ie/2026/04/30/t...
Gair y dydd: DEL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae’n rhyfedd fel mae geiriau’n gallu newid eu hystyr yn llwyr dros amser. Hen ystyr DEL oedd ‘blin, garw, styfnig’. Ond ei ystyr i ni heddiw yw ‘hardd, tlws’.
Gair y Dydd: gwyntell geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., neu wyntell/gwintell/wintell. Basged gron heb ddolen iddi, wedi ei phlethu o wiail cyll neu helyg, ac a ddefnyddir yn arbennig i ddal tatws, dillad, &c. Caiff basgedi o'r fath eu hadnabod hefyd fel basgedi lip, cintell, cyntell a chantell.
Studia Celtica 2025 has arrived! - a substantial issue, produced jointly by the Ganolfan and @uniwalespress.bsky.social @collen105.bsky.social. Further information is given here: www.uwp.co.uk/journal/stud...
Mae Studia Celtica 2025 wedi cyrraedd - rhifyn swmpus, wedi ei gyd-gynhyrchu gan y Ganolfan a @gwasgprifcymru.bsky.social @collen105.bsky.social. Cewch fanylion pellach yma: www.gwasgprifysgolcymru.org/journal/stud...
🎆Job Klaxon!!🎆 Folúntais: Scoláireachtaí Uí Dhonnabháin @scs-dias.bsky.social @dias.ie. Spriocdháta 5 Eanáir 2026 2 O’Donovan Scholarship vacancies at the School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies. Deadline 5 January 2026: www.dias.ie/2025/12/05/v...
Vacancies: O’Donovan Scholarships – DIAS
dias.ie
Mae'n amlwg nad Cymro a enwodd Storm BRAM, a fydd yn ein cyrraedd ni heddiw!
Llinellau cerddi Beirdd y Tywysogion yn nhrefn yr wyddor / lines from the poems of the Poets of the Princes, in alphabetical order. @yganolfangeltaidd.bsky.social www.geiriadura.cymru/post/beirdd-...
Beirdd y Tywysogion (c.1100–c.1282/3)
Dyma restr yn nhrefn yr wyddor o linellau cerddi Beirdd y Tywysogion i chi gael ei lawrlwytho os gall fod yn ddefnyddiol i chi. Fe'i defnyddiaf i adnabod cerddi mewn llawysgrifau - yn enwedig drylliau...
geiriadura.cymru
Tua diwedd Tachwedd 1606 cychwynnodd cyfnod rhewllyd eithriadol. Yn ôl y cofnod hwn (ar y chwith) gan John Jones Gellilyfdy yn 1607, rhewodd afonydd Conwy, Dyfrdwy, Tafwys a Llyn Tegid; bu farw nifer o anifeiliaid a bu gostyngiad sylweddol yn niferoedd rhai adar, fel y fwyalchen a’r fronfraith.
Gair y dydd: DYFALBARHAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef y dygnwch sydd yn ambell un i barhau neu i ddal ati gyda rhyw orchwyl, pan fo'r rhan fwyaf o'u cwmpas wedi rhoi'r gorau iddi.
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar ôl i ni newid yr awr yn sgil troi’r clociau’n ôl nos Sadwrn, bydd hi’n NOSI yn gynt bob dydd nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn, tua 21 Rhagfyr. Un cysur fydd yr awr ychwanegol a gawn yn y gwely fore Sul nesaf!
Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Cysylltwch â cefnogi@geiriadur.ac.uk os hoffech fwy o wybodaeth #CyfeillionGPC
Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800). Englyn Dewi Emrys i'r gorwel: Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas, Campwaith dewin hynod: Hen linell bell nad yw'n bod Hen derfyn nad yw'n darfod.
Beth yw'ch gair chi am slefren fôr neu bysgodyn jeli? Cont fôr oedd gair Lewis Morris (1754) a cheir Cont goch gan Edward Lhuyd (1684). Ond yr enw hynaf sydd gennym yn Gymraeg yw BLOBYS gan John Jones Gellilyfdy (1632). #GeirfaurFflyd @geiriadur.bsky.social
Braf ymweld â @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr...
Gair y dydd: pyngo ‘tyfu’n glystyrau, cynhyrchu’n doreithiog (am goed ffrwythau, &c.), bod yn drwmlwythog (â ffrwythau)’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ceir sawl amrywiad llafar ar y gair, e.e. pingo (Ceredigion a’r De), plyngad (Cwm Rhondda), plingo a byngad (Ceredigion).
Gwrandewch ar Catrin Huws, un o Olygyddion Cynorthwyol y Geiriadur, yn trafod rhai o'r geiriau 'newydd' sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar 'Dros Frecwast' ar BBC Radio Cymru y bore 'ma (www.bbc.co.uk/sounds/play/... gan ddechrau tua 55:40 munud drwy'r rhaglen).
Dros Frecwast - 19/08/2025 - BBC Sounds
Y newyddion diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt, gyda Kate Crockett a Dylan Ebenezer.
bbc.co.uk
⚠️ Seminar announcement: in semester 2 of the new academic year (Feb-May 2026), I will be teaching a 𝐒𝐞𝐦𝐢𝐧𝐚𝐫 𝐨𝐧 𝐀𝐧𝐜𝐢𝐞𝐧𝐭 𝐂𝐞𝐥𝐭𝐢𝐜 𝐋𝐚𝐧𝐠𝐮𝐚𝐠𝐞𝐬 (SG648) in the Dept. of Early Irish (@ceilteachomn.bsky.social) at Maynooth University. Guests from outside are very welcome. More info ⬇️
Gair y dydd: BRICYLL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a fathwyd gan William Owen Pughe (1793) ar ôl teimlo bod diffyg gair Cymraeg amdano. Bu'n fathiad llwyddiannus! Cysylltwch os oes gennych chithau awgrym am eiriau newydd, ar ôl teimlo #dylaifodgairamhyn. Cawn eu trafod yn yr Eisteddfod!